Senedd Cymru
Tîm Ymgysylltu â Dinasyddion
Bil Iaith Arwyddion Prydain (IAP) (Cymru):
Canfyddiadau’r gwaith ymgysylltu
20 Hydref 2025

Paratowyd y papur hwn gan Dîm Ymgysylltu â Dinasyddion y Senedd ar gyfer ystyriaethau y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol o’r Bil Iaith Arwyddion Prydain (IAP) (Cymru) © Hawlfraint Comisiwn y Senedd 2025 Gellir atgynhyrchu testun y ddogfen hon yn rhad ac am ddim mewn unrhyw fformat neu gyfrwng cyn belled ag y caiff ei atgynhyrchu'n gywir ac na chaiff ei ddefnyddio mewn cyd-destun camarweiniol neu ddifrïol. Mae'n rhaid cydnabod bod y deunydd yn hawlfraint Comisiwn y Senedd a nodi teitl y ddogfen.
2. Canfyddiadau’r gwaith ymgysylltu
Effaith bosibl y Bil ar ofal iechyd
Effaith bosibl y Bil ar sectorau eraill
Codi ymwybyddiaeth o Fyddardod
Mynediad at ddehonglwyr a hyfforddiant i ddehonglwyr
Effaith ar iechyd meddwl ac unigedd
1. Bil Aelod yw’r Bil Iaith Arwyddion Prydain (Cymru) (y cyfeirir ato fel ‘y Bil’ o hyn ymlaen) a gyflwynwyd gan Mark Isherwood AS ar 14 Gorffennaf 2025. Cafodd y Bil ei drosglwyddo i'r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol (‘y Pwyllgor’ o hyn ymlaen).
2. Nod y Bil yw hybu’r defnydd o Iaith Arwyddion Prydain (IAP) yng Nghymru, ac mae’n gosod amrywiol ddyletswyddau newydd ar Weinidogion Cymru ac ar rai cyrff cyhoeddus.
3. Yn ei gyfarfod ar 21 Gorffennaf 2025, cytunodd y Pwyllgor ar ei ddull o graffu ar y Bil.
4. Nod y rhaglen ymgysylltu oedd casglu safbwyntiau defnyddwyr Byddar IAP fel sail i waith craffu'r Pwyllgor ar y Bil. Yn hytrach na chanolbwyntio ar brofiadau bywyd pobl, roedd y gwaith ymgysylltu yn gofyn am sylwadau ynghylch a yw'r Bil, fel y mae wedi’i ddrafftio ar hyn o bryd, yn addas at y diben
5. Trafodwyd y themâu canlynol:-
§ Gobeithion a disgwyliadau: A yw'r Bil yn gwneud yr hyn yr oeddech chi'n gobeithio y byddai’n ei wneud?
§ Effeithiolrwydd a chyflawni: A fydd y Bil yn gweithio’n ymarferol?
§ Bylchau a/neu ychwanegiadau: Yn eich barn chi, a oes unrhyw beth ar goll o'r Bil y dylid ei gynnwys ynddo?
§ Rhoi llais i'r gymuned IAP: Nod y Bil yw hyrwyddo’r defnydd o IAP yng Nghymru. A all y Bdecoration:none'>9
Mynediad at ddehonglwyr a hyfforddiant i ddehonglwyr
Effaith ar iechyd meddwl ac unigedd
1. Bil Aelod yw’r Bil Iaith Arwyddion Prydain (Cymru) (y cyfeirir ato fel ‘y Bil’ o hyn ymlaen) a gyflwynwyd gan Mark Isherwood AS ar 14 Gorffennaf 2025. Cafodd y Bil ei drosglwyddo i'r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol (‘y Pwyllgor’ o hyn ymlaen).
2. Nod y Bil yw hybu’r defnydd o Iaith Arwyddion Prydain (IAP) yng Nghymru, ac mae’n gosod amrywiol ddyletswyddau newydd ar Weinidogion Cymru ac ar rai cyrff cyhoeddus.
3. Yn ei gyfarfod ar 21 Gorffennaf 2025, cytunodd y Pwyllgor ar ei ddull o graffu ar y Bil.
4. Nod y rhaglen ymgysylltu oedd casglu safbwyntiau defnyddwyr Byddar IAP fel sail i waith craffu'r Pwyllgor ar y Bil. Yn hytrach na chanolbwyntio ar brofiadau bywyd pobl, roedd y gwaith ymgysylltu yn gofyn am sylwadau ynghylch a yw'r Bil, fel y mae wedi’i ddrafftio ar hyn o bryd, yn addas at y diben
5. Trafodwyd y themâu canlynol:-
§ Gobeithion a disgwyliadau: A yw'r Bil yn gwneud yr hyn yr oeddech chi'n gobeithio y byddai’n ei wneud?
§ Effeithiolrwydd a chyflawni: A fydd y Bil yn gweithio’n ymarferol?
§ Bylchau a/neu ychwanegiadau: Yn eich barn chi, a oes unrhyw beth ar goll o'r Bil y dylid ei gynnwys ynddo?
§ Rhoi llais i'r gymuned IAP: Nod y Bil yw hyrwyddo’r defnydd o IAP yng Nghymru. A all y Bil wneud hyn yn effeithiol, yn eich barn chi?
§ Canlyniadau anfwriadol: A ydych o’r farn y gallai unrhyw beth gwael neu annheg ddigwydd yn sgil y Bil hwn, hyd yn oed os yw hynny’n anfwriadol?
§ Yr amserlen: Mae'r Bil yn nodi bod yn rhaid adolygu'r strategaeth IAP bob chwe blynedd. A yw’r amserlen hon yn rhy fyr, yn rhy hir, neu’n briodol?
§ Rôl y cynghorydd IAP: Mae'r Bil yn sôn am gynghorydd IAP, ac am unigolion i fod yn aelodau o banel i gynorthwyo'r cynghorydd. Pa fath o berson ddylai ymgymryd â rôl y cynghorydd?
6. Defnyddiodd y Tîm Ymgysylltu â Dinasyddion ddull ymgysylltu ansoddol a oedd yn cynnwys grwpiau ffocws gydag arwyddwyr IAP Byddar yng Nghymru.
7. Mae’r papur hwn yn amlinellu’r themâu allweddol a ddeilliodd o’r rhaglen ymgysylltu. Mae'r safbwyntiau a gyflwynir yn adlewyrchu'r sylwadau a gafwyd gan y cyfranwyr, ac nid ydynt wedi'u bwriadu i gynrychioli safbwyntiau pob unigolyn byddar ac arwyddwr IAP yng Nghymru.
8. Roedd y rhaglen ymgysylltu yn cynnwys 54 o gyfranwyr ar draws chwe grŵp ffocws, a gynhaliwyd rhwng 16 Medi a 1 Hydref 2025.
9. Roedd y cyfranwyr yn dod o bob un o bum rhanbarth y Senedd.
10. Cafodd y cyfranwyr eu recriwtio drwy bartneriaethau â rhanddeiliaid allweddol, grwpiau cymunedol, a sefydliadau’r trydydd sector sy'n cefnogi pobl Fyddar ledled Cymru.
11. Er bod y rhan fwyaf o'r cyfranwyr yn arwyddwyr IAP Byddar, roedd rhai yn arwyddwyr IAP a oedd yn gallu clywed. Roedd y grwpiau yn cynnwys pobl ifanc, oedolion hŷn, arwyddwyr IAP byddar a oedd hefyd wedi colli eu golwg, ac unigolion o gefndiroedd ethnig lleiafrifol.
12. Roedd y gwaith ymgysylltu yn cynnwys y canlynol:-
§ Pum grŵp ffocws wyneb yn wyneb.
§ Un grŵp ffocws ar-lein
§ Un cyfraniad ysgrifenedig.
13. Roedd fformat y grwpiau ffocws, i raddau helaeth, yn gyson ar draws y rhaglen ymgysylltu, gyda rhywfaint o amrywiad i ddiwallu anghenion y cyfranwyr. Darparwyd dau ddehonglydd IAP ar gyfer pob grŵp ffocws.
Daeth y themâu a ganlyn i’r amlwg yn sgil y trafodaethau.
14. Fel arfer, roedd y trafodaethau’n dechrau gyda’r cyfranwyr yn amlinellu eu gobeithion a'u disgwyliadau ar gyfer y Bil, a'i effaith bosibl.
15. Roedd llawer yn dweud, os daw’r Bil yn ddeddf, eu bod yn gobeithio y byddai'n arwain at:
§ fwy o ymwybyddiaeth o Fyddardod;
§ mwy o ddehonglwyr IAP cymwysedig yng Nghymru;
§ gwell hyfforddiant i staff gwasanaethau cyhoeddus; a
§ mwy o fuddsoddiad mewn gwasanaethau hygyrch i'r gymuned Fyddar.
16. Roedd y rhan fwyaf o’r cyfranwyr yn croesawu’r Bil, gan fynegi cefnogaeth gref i'w nodau, ond mynegodd rhai optimistiaeth gochelgar ynghylch a fyddai'n arwain at newid ystyrlon, hirdymor.
“Os na fydd y Bil yn gwneud yr hyn rydyn ni eisiau iddo ei wneud, bydd y gymuned Fyddar yng Nghymru yn ddig, yn siomedig ac yn ddigalon iawn, iawn, oherwydd dyw’r pethau sy’n cael eu gwneud ar hyn o bryd ddim yn gweithio. Dyw’r Ddeddf Cydraddoldeb ddim yn gweithio i ni, a dyw’r safonau hygyrchedd ym maes iechyd ddim yn gweithio - felly does yna prin unrhyw sector yng Nghymru sy’n gweithio i ni. Felly rydyn ni eisiau gwelliannau ym mhobman. Rydyn ni eisiau gweld mwy o ddehonglwyr, mwy o athrawon iaith arwyddion, ac rydyn ni eisiau gweld pobl Fyddar yn cyflawni eu potensial. Mae yna bobl sydd â photensial ond sy’n hawlio budd-daliadau yn lle, tra dylen nhw fod yn gweithio - mae ganddyn nhw sgiliau. Hoffwn i weld newid enfawr lle rydych chi'n teimlo eich bod chi'n cael eich cynnwys yn eich cymuned.”
17. Yn benodol, roedd gan rai cyfranwyr amheuon ynghylch cyllid ac ymrwymiad y llywodraeth pe bai'r Bil yn cael ei basio, yn enwedig o ystyried y toriadau parhaus i wasanaethau cyhoeddus a chyni ariannol ehangach.
“Rydyn ni wedi brwydro dros bethau o'r blaen, ond dydyn nhw ddim yn gwrando. Rwy’n meddwl y bydd yn dibynnu ar - na fydd ganddyn nhw’r amser i'w wneud, neu na fydd dehonglwyr ar gael. . . Rwy’n meddwl bod hyn yn ymwneud ag arian a thoriadau i'r GIG. Mae wedi bod fel hyn ers blynyddoedd a dw i ddim yn meddwl y bydd unrhyw beth yn newid.”
18. Pwysleisiodd sawl cyfrannwr yr angen i'r Bil arwain at newid ymarferol, ac nid dim ond cydnabyddiaeth symbolaidd. Pwysleisiodd rhai fod newid ymarferol a gwelliannau cynaliadwy yn golygu y bydd angen buddsoddiad gan y Llywodraeth.
“Allwn ni ddim cymryd camau nawr, oherwydd dyw’r ddeddfwriaeth ddim yn bodoli i gefnogi’r camau hynny. Ar hyn o bryd, mae gennym ni ‘addasiadau rhesymol’ – ond does ganddyn nhw ddim grym oherwydd bod pobl yn dweud, ‘Wel, allwn ni ddim fforddio hynny’. . . Mae angen i Iaith Arwyddion Prydain gael ei ymgorffori yn y gyfraith, a dod yn rhywbeth y mae'n rhaid i bobl ei wneud. Oherwydd bydd hynny'n cael effaith ar weithwyr proffesiynol, ar y llywodraeth, ar gynghorau, lle bydd yn rhaid iddyn nhw ddarparu’r gwasanaeth wedyn. Mae hynny'n rhoi pŵer i bobl Fyddar gwyno oherwydd bod ganddynt hawl yn y gyfraith i gael y mynediad hwnnw.”
19. Er bod y trafodaethau wedi canolbwyntio ar y Bil a'i gynnwys, fe wnaeth llawer o’r cyfranwyr, yn naturiol, gyfeirio at eu profiadau personol nhw i ddangos y rhwystrau y maent yn eu hwynebu mewn sectorau fel gofal iechyd, addysg, trafnidiaeth a chyflogaeth. Fe wnaethant rannu sut yr oeddent yn gobeithio y gallai'r Bil helpu i gael gwared ar y rhwystrau hyn neu eu lleihau.
“Wrth ddod yma heddiw, roeddwn i'n meddwl am y dyfyniad, ‘os nad yw wedi torri, peidiwch â'i drwsio’, a wnaeth imi edrych ar Ddeddf Iaith Arwyddion Prydain yr Alban ac fe wnes i rywfaint o ymchwil ar hynny. Er bod cymaint o bethau positif yn y gymuned fyddar yn yr Alban, maen nhw'n dal i wynebu rhwystrau. . . Does dal ddim digon o ddehonglwyr, does dal ddim digon o athrawon byddar, does dal ddim digon o ymwybyddiaeth o Fyddardod o fewn y gymuned sy’n gallu clywed . . . felly gyda'r Bil IAP hwn . . . beth ydyn ni'n mynd i'w wneud yng Nghymru i sicrhau y bydd digon o ddehonglwyr, digon o athrawon byddar a digon o ymwybyddiaeth o fyddardod ymhlith y gymuned sy'n gallu clywed?”
20. O blith y sectorau a drafodwyd, yr un y cyfeiriwyd amlaf ato oedd ofal iechyd, gyda llawer yn mynegi eu gobaith mai dyma’r maes lle y bydd y Bil yn cael effaith sylweddol a chadarnhaol.
21. Ar hyn o bryd, mae anawsterau wrth gyfathrebu â staff gofal iechyd yn bodoli o'r pwynt cyswllt cyntaf. Amlygodd y cyfranwyr ddiffyg ymwybyddiaeth eang Fyddardod mewn lleoliadau gofal iechyd sydd, ar ei fwyaf difrifol, yn gallu rhoi bywydau yn y fantol.
22. Rhannodd y cyfranwyr sawl stori am adegau pan nad oedd staff gofal iechyd yn ymwybodol o sut i drefnu dehonglydd IAP, gan gredu’n gyfeiliornus mai cyfrifoldeb y claf oedd hynny, neu honni bod y dehonglydd yn absennol. Mewn achosion o'r fath, roedd y cyfranwyr yn aml yn gorfod dibynnu ar aelodau o'r teulu neu ffrindiau i gyfathrebu â gweithwyr gofal iechyd proffesiynol - trefniant yr ystyrir ei fod yn amhriodol.
“Rwy'n credu mai arian a thoriadau yw’r broblem, ac efallai ddiffyg darpariaeth, a'r gred gyffredin bod pobl Fyddar yn waith caled a bod trefnu dehonglwyr yn drafferthus, a dydyn nhw ddim eisiau helpu. Mae'r un peth yn wir am wasanaethau meddygon teulu ... mae'n brofiad eithaf annifyr. Rydw i wedi cwyno, ond mae'n digwydd yn aml.”
23. Roedd y cyfranwyr yn gobeithio y byddai'r Bil yn helpu i fynd i'r afael â'r materion hyn drwy ei gwneud yn ofynnol i'r holl staff gofal iechyd sy'n cyfathrebu â chleifion dderbyn hyfforddiant IAP sylfaenol o leiaf.
24. Fe wnaethant hefyd ddweud eu bod yn gobeithio y byddai'r Bil yn arwain at welliannau i’r broses o drefnu apwyntiadau, nid yn unig drwy sicrhau bod staff yn gwybod yn hyderus sut i drefnu dehonglydd IAP, ond hefyd drwy symleiddio'r broses ei hun.
“Dylai’r ffaith fy mod i’n Fyddar fod wedi’i nodi ar fy nghofnod iechyd. Felly pan fyddan nhw’n anfon llythyr apwyntiad ataf, dylai ddangos fy mod i'n Fyddar. Felly dylen nhw fod yn trefnu dehonglwyr ar y cam hwnnw.”
“Ap y GIG – rhaid iddyn nhw gynnwys Iaith Arwyddion Prydain ar hwnnw. Hyd yn oed os mai dolen yn Iaith Arwyddion Prydain fyddai ar gael – beth mae'n ei wneud a beth nad yw'n ei wneud. Yna mae’r ap yn cael ei lansio, a syndod o ryfeddodau, does dim byd yn Iaith Arwyddion Prydain. Mae'n rhwystredig iawn oherwydd mae'n teimlo bod ymgynghoriad ar addysg neu iechyd neu rywbeth arall yn cael ei gynnal bob pum mlynedd, ac yna does dim byd yn digwydd.”
25. Yn ystod y trafodaethau, soniwyd am feysydd penodol o'r sector gofal iechyd, gan gynnwys cartrefi gofal. Cyfeiriodd sawl cyfrannwr at fylchau sylweddol yn y ddarpariaeth ar gyfer pobl fyddar o fewn y lleoliadau hyn, yn enwedig i'r rhai a allai fod yn byw gyda chyflyrau fel dementia.
“Rhaid i bob cartref gofal fod yn gyfeillgar i bobl fyddar. Ac rwy'n meddwl amdanaf fi fy hun - os ydw i'n mynd yn hŷn ac yn datblygu rhywbeth fel yna, neu os ydw i'n mynd i gartref gofal, rwy'n credu y dylen ni fod yn gwarchod yn erbyn hyn at y dyfodol. Fel bod gan bobl fynediad drwy gydol eu bywydau at unrhyw wasanaethau sydd eu hangen arnyn nhw, gan gynnwys pan fyddwch chi'n hŷn ac mewn cartref gofal efallai.”
26. Yn ogystal, dywedodd rhai cyfranwyr eu bod yn gobeithio y byddai effaith y Bil yn ymestyn y tu hwnt i gleifion Byddar eu hunain, gan gynnig cymorth mewn sefyllfaoedd lle mae person Byddar yn cefnogi claf. Er enghraifft, soniodd gofalwyr Byddar am heriau sylweddol o ran cael mynediad at wasanaethau iechyd ar ran y rhai y maent yn gofalu amdanynt, gan eu bod yn aml yn cael gwybod bod dehonglydd ond yn cael ei ddarparu pan fydd y claf yn Fyddar, yn hytrach na'r gofalwr.
“Dros yr ugain mlynedd diwethaf, rydw i wedi bod yn ofalwr i fy rhieni, ac o ran y Bil Iaith Arwyddion Prydain, rwy'n credu bod angen iddo gwmpasu nid yn unig pobl Fyddar ond hefyd aelodau'r teulu o amgylch y bobl Fyddar hynny, y gallai’r bobl Fyddar fod yn gofalu amdanyn nhw. Y penderfyniad ynghylch mynediad at ddehonglydd a sut mae hynny’n effeithio ar y bobl rydw i'n gofalu amdanynt. Felly does dim angen i'r fframwaith fod ar gyfer pobl Fyddar o reidrwydd, mae angen iddo fod yn ehangach na hynny fel ei fod yn cwmpasu iechyd a llesiant aelodau o'r teulu. Bu farw fy rhieni yn ddiweddar, ac achosodd y broses honno lawer o anawsterau, llawer o rwystrau.”
“Mae fy mab wedi cael apwyntiadau iechyd, ac rydw i wedi gofyn am ddehonglwyr ac fe ddywedon nhw, “Yn anffodus, ar gyfer y claf yn unig mae’r dehonglwyr, nid ar gyfer y gofalwyr.” Felly rydw i eisiau rhoi neges glir nad mater yn ymwneud â'r unigolyn Byddar yn unig yw hwn, mae'n ymwneud â'r gwahanol rolau rydyn ni'n eu chwarae ym mywydau ein gilydd.”
27. Soniodd llawer o’r cyfranwyr am bwysigrwydd cyflwyno IAP mewn ysgolion, nid yn unig i gefnogi disgyblion byddar, ond hefyd i hybu ymwybyddiaeth o Fyddardod ymhlith plant sy'n gallu clywed. Soniodd nifer am brofiadau personol o fynychu ysgolion prif ffrwd lle roedd eu haddysg yn anhygyrch, gan eu gadael yn teimlo'n siomedig ac yn methu â chyflawni eu potensial.
“Mae angen mynediad at Iaith Arwyddion Prydain ar blant. Gwelais ddisgyblion Blwyddyn 6 yn cael trafferth gydag ysgrifennu, ond fe wnaethon nhw ddeall iaith arwyddion yn gyflym. Mae o fudd i bawb.”
28. Roeddent yn gobeithio y byddai'r Bil yn helpu i fynd i’r afael â hyn gan adfer balchder pobl yn eu hunaniaeth fyddar, gan ddechrau gydag addysg gynnar. Galwodd rhai hefyd am ailsefydlu ysgolion byddar yng Nghymru, gan ddweud eu bod yn gobeithio y gallai'r Bil gefnogi'r nod hwn yn y pen draw.
“Rydyn ni'n dibynnu ar awdioleg i esbonio i rieni plant byddar newydd-anedig - mae gennych chi opsiynau, ac un yw annog cyflwyno Iaith Arwyddion Prydain i'r plentyn o'r cychwyn cyntaf, ac i'r teulu fod yn rhan o’r broses. Rydyn ni wedi clywed bod awdioleg dal yn annog yn erbyn hynny. Rydyn ni'n gweld bod tystiolaeth fod hyn yn dal i ddigwydd.”
“Mae gennym 22 o gynghorau yng Nghymru a dim ond 3 ohonynt sy'n darparu gwasanaethau cyfnewid fideo (VRS), sef Iaith Arwyddion Prydain ar-lein gyda dehonglwyr, felly beth am y cynghorau eraill? Felly os oes gennych chi gwestiynau am sbwriel, treth gyngor… Rwy’n byw yn Rhondda Cynon Taf, does dim gwasanaeth VRS yn fy nghyngor lleol. Ac rwy'n dal i ofyn iddyn nhw amdano.”
29. Roedd y rhan fwyaf o’r cyfranwyr yn gobeithio mai un o brif effeithiau’r Bil fydd gwella ymwybyddiaeth o Fyddardod, a hyrwyddo gwell dealltwriaeth o'r amrywiaeth o fewn y gymuned Fyddar, a hynny ymhlith y boblogaeth sy'n clywed. Er enghraifft, nid yw pob person Byddar yn darllen gwefusau - nododd un cyfrannwr nad oes modd darllen gwefusau pawb bob tro, ac nid yw teclynnau cymorth clyw yn adfer clyw yn llawn.
30. Er bod rhai cyfranwyr yn dweud eu bod yn deall nad yw rhai pwerau wedi'u datganoli i Gymru, roeddent serch hynny yn gobeithio, pe bai’r Bil yn dod yn gyfraith, y byddai'n cael effaith eang ar feysydd nad ydynt wedi'u datganoli gan gynnwys plismona a chyflogaeth, gyda Chanolfannau Gwaith yn cael eu crybwyll yn benodol.
31. Cafwyd trafodaeth ynghylch a oedd unrhyw fylchau yn y Bil, ac roedd y ffocws pennaf ar y rhestr o gyrff cyhoeddus.
“Mae angen i Adran 4 fod yn arbennig o gryf er mwyn caniatáu iddo fod yn hirhoedlog. Mae angen i'r rhestr fod yn eithaf helaeth. Rwy'n credu bod angen llawer o gynllunio a pharatoi. Pwy fydd yn rhan o’r broses honno?”
32. Ni ddywedodd unrhyw gyfrannwr ei fod yn hapus gyda'r rhestr bresennol o gyrff cyhoeddus sydd wedi'u cynnwys yn y Bil. Roedd barn gref bod y rhestr yn rhy gyfyngedig ac y dylid ei ehangu i gynnwys sefydliadau a rhanddeiliaid allweddol eraill yn benodol. Roedd rhai yn cydnabod efallai na fyddai’n bosibl ehangu’r rhestr unwaith, ond dywedwyd y dylai barhau i fod yn uchelgais glir ar gyfer y dyfodol.
“Er mwyn i’r Bil gael ei basio, efallai na allwn fynnu bod yr holl sefydliadau hyn yn cael eu cynnwys ar hyn o bryd, ond mae angen pennu uchelgais i’w cynnwys ar ryw adeg neu adolygu'r rhestr honno. Hyd yn oed os yw hynny ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach. Mae'n rhaid ei gynnwys yn rhywle.”
33. Ymhlith y sefydliadau yr awgrymwyd y dylid eu hychwanegu at y rhestr roedd Cadw, Estyn, yr Ombwdsmon, Cymwysterau Cymru, Comisiynydd y Gymraeg, a “chynghorau lleol”.
“Rwy'n credu y dylai'r Ombwdsmon fod ar y rhestr. Mae ganddo fynediad yn y Gymraeg a'r Saesneg ond dyw Iaith Arwyddion Prydain ddim yn opsiwn.”
“Roeddwn i'n siomedig nad oedd Trafnidiaeth Cymru wedi'i gynnwys yn y rhestr. Does gan ein Gorsaf Ganolog yng Nghaerdydd ddim gwasanaeth Iaith Arwyddion Prydain hyd y gwn i. Pan agorwyd gwasanaeth bws newydd sbon, roedd pobl Fyddar yn rhan o'r ymgynghoriad ar gyfer ei ddylunio. Fe wnaethon ni bwysleisio pa mor bwysig yw cynnwys gwybodaeth yn Iaith Arwyddion Prydain yn yr orsaf fysiau ganolog flaenllaw newydd hon. Aethom i'r sesiwn cyn i’r orsaf gael ei hagor, gan fod pob grŵp agored i niwed wedi mynd i'r orsaf fysiau cyn iddi agor, ac roeddwn i mor siomedig. Roedd yna lwyth o addasiadau ar gyfer pobl a oedd wedi colli eu golwg, sy’n beth gwych. Ond dim byd o ran Iaith Arwyddion Prydain. Mae ganddyn nhw'r holl sgriniau hyn, hysbysebion yn fflachio a llawer o wybodaeth, ond dim byd yn Iaith Arwyddion Prydain. Hyd yn oed pe bai ond y wybodaeth sylfaenol ar gael, er enghraifft, sut i ddefnyddio'r orsaf fysiau, ble i gael y wybodaeth, sut i gysylltu â’r gwasanaeth cymorth i deithwyr, ble mae'r pwynt cymorth i deithwyr. . . felly siomedig iawn. Mae hyn yn rhywbeth sy'n digwydd yn aml – maen nhw’n ymgynghori â ni, mae pobl yn ysgrifennu'r pethau hyn i lawr, yn codi bawd arnon ni, ond dydyn nhw ddim yn darparu'r gwasanaethau.
“Un feirniadaeth o'r Bil - mae'n sôn am awdurdodau lleol ond nid yw'n sôn am Estyn a Chymwysterau Cymru. Felly, er enghraifft, roedd Cymwysterau Cymru yn datblygu TGAU Iaith Arwyddion Prydain wedi'i wneud yn benodol i Gymru, a chafwyd llawer o gyffro am hyn ymhlith y gymuned Fyddar, ac yna’n sydyn, fe wnaethon nhw roi’r gorau i’r gwaith. . . mae'n deillio o'r ffaith nad ydyn nhw wedi ymgysylltu digon â phobl fel Cymdeithas Fyddar Prydain a Chyngor Cymru. Rydyn ni'n deall bod y pryderon yn ymwneud â thafodieithoedd, ond fe ddywedon ni na ddylen nhw boeni am dafodieithoedd - mae'r un peth yn wir gyda'r Gymraeg a'r Saesneg."
“Mae angen cynnwys Parciau Cenedlaethol, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Cadw, Amgueddfeydd, Cymwysterau Cymru, Gofal Cymdeithasol Cymru, Cyngor Chwaraeon, Trafnidiaeth Cymru”
34. Pwysleisiodd rhai cyfranwyr bwysigrwydd sicrhau bod modd gorfodi darpariaethau'r Bil, yn hytrach na’u bod yn ddewisol. Gyda hyn mewn golwg, roeddent yn teimlo y dylai'r Bil amlinellu'n glir sut y gall unigolion wneud cwyn os nad yw cyrff cyhoeddus yn cyflawni eu dyletswyddau. Roedd galw cryf am gynnwys prosesau cwyno a gorfodi clir i sicrhau atebolrwydd a dangos y bydd pryderon yn cael eu cymryd o ddifrif.
“Sut ydyn ni'n gwneud yn siŵr y bydd rhywun yn gwrando arnom ni os oes gennym gwynion yr ydym am eu codi? Beth yw'r broses o fewn y Bil? Mae angen rhywbeth o fewn y Bil i ddweud y bydd rhywun yn gwrando ar y gŵyn, ac y bydd camau’n cael eu cymryd wedyn. Oherwydd rydyn ni’n hen gyfarwydd â tharo ein pennau yn erbyn wal frics, a dim byd yn newid.”
35. Awgrymodd un cyfrannwr mai un dull posib ar gyfer sicrhau bod cyrff cyhoeddus yn cydymffurfio â darpariaethau'r Bil fyddai defnyddio dull “cwsmer cudd”, lle mae unigolion Byddar yn monitro ac yn asesu ansawdd gwasanaeth i hyrwyddo atebolrwydd ymarferol.
36. Mae'r rhan fwyaf o’r cyfranwyr yn gryf o blaid penodi Cynghorydd IAP, gan gredu y gallai'r rôl, o benodi’r person cywir, gynnig goruchwyliaeth hanfodol wedi ei harwain gan bobl Fyddar. Fodd bynnag, mynegodd rhai eu siom na fwriedir penodi Comisiynydd IAP bellach, er eu bod yn fodlon cefnogi'r model cynghorydd pe bai’n helpu i sicrhau bod y Bil yn cael ei basio.
“Os ydyn ni eisiau bod yn gyfartal â'r Gymraeg, dylem gael Comisiynydd mewn gwirionedd, ond rydyn ni wedi cytuno i dderbyn opsiwn y cynghorydd er mwyn sicrhau bod y Bil yn cael ei basio.. Rwy'n credu ei bod yn hanfodol bwysig bod y cynghorydd nid yn unig yn rhywun sy’n arwyddwr Iaith Arwyddion Prydain, ond yn arwyddwr Iaith Arwyddion Prydain Byddar. Os nad oes arwyddwr Iaith Arwyddion Prydain Byddar ar gael, yna person sy'n clywed gyda chysylltiadau ag arwyddwyr Iaith Arwyddion Prydain Byddar yw’r ail opsiwn gorau.”
37. Trafododd y cyfranwyr y rhinweddau a'r cefndir y dylai’r Cynghorydd IAP feddu arnynt. Roedd y mwyafrif yn teimlo y dylai'r Cynghorydd fod yn rhugl yn IAP, gyda llawer yn nodi y dylai fod yn Fyddar yn ddelfrydol, neu o leiaf, fod â chysylltiadau cryf â diwylliant y gymuned Fyddar a phrofiad bywyd o hynny, er enghraifft rhywun sy’n blentyn i oedolyn Byddar (“CODA”).
“Mae angen i'r Cynghorydd fod yn wleidyddol ymwybodol a deall hanes y gymuned Fyddar, y gorthrwm a wynebir gan y gymuned honno, a'r gwahaniaethau rhwng Gogledd a De Cymru.”
“Defnyddiwr iaith arwyddion, yn bendant. Mae angen iddo fod yn hollol Fyddar…wel, efallai ddim hyd yn oed yn Fyddar, ond yn hyddysg yn yr iaith arwyddion os ydyn nhw’n gallu clywed. Mae angen iddo allu cyfathrebu â phobl fyddar, ond mae angen iddo ddeall y diwylliant hefyd.”
38. Soniodd y cyfranwyr am bwysigrwydd penodi rhywun sy'n gallu cynrychioli'n deg anghenion pobl Fyddar ar draws pob rhan o Gymru, yn enwedig yng Nghanolbarth a Gogledd Cymru ac ardaloedd gwledig eraill, lle mae gwasanaethau yn aml yn gyfyngedig.
39. Pwysleisiodd rhai y dylai'r Cynghorydd eisoes fod â pherthynas gref â rhanddeiliaid allweddol, megis Cymdeithas Fyddar Prydain a Chyngor Pobl Fyddar Cymru. Roedd eraill o'r farn y dylai fod gan y Cynghorydd ddealltwriaeth gadarn o'r dirwedd wleidyddol a'r heriau ymarferol sy'n wynebu'r gymuned fyddar yng Nghymru
40. Er bod aelodaeth y panel cynghori wedi'i thrafod i raddau llai, pwysleisiodd y cyfranwyr pa mor bwysig yw sicrhau bod arwyddwyr IAP Byddar yn aelodau o’r panel. Dywedodd un cyfrannwr ei fod o blaid panel gyda chynrychiolaeth eang o bob cwr o Gymru sy’n cylchdroi o bryd i’w gilydd.
41. Roedd y cyfranwyr yn pryderu am y cylch adolygu chwe blynedd a gynigir ar gyfer y strategaeth IAP genedlaethol. Roedd llawer o’r cyfranwyr yn teimlo bod chwe blynedd yn gyfnod rhy hir rhwng adolygiadau, yn enwedig o ystyried anghenion newidiol y gymuned Fyddar a'r potensial ar gyfer newidiadau mewn arweinyddiaeth wleidyddol neu gyfeiriad polisi. Roedd y mwyafrif o blaid cyfnod adolygu cychwynnol byrrach i sicrhau bod y strategaeth yn parhau i fod yn effeithiol yn ei chyfnodau cynnar.
“Fy marn bersonol yw bod yr amserlenni yn iawn ond nid ar y dechrau, a hoffwn i'r adolygiad cyntaf fod yn gynharach ac yna efallai ar ôl hynny symud i’r cylch chwe blynedd. Gan fod hyn yn newydd, dw i ddim yn credu ein bod ni am adael chwe blynedd cyn i ni adolygu a darganfod nad yw pethau'n gweithio, oherwydd mae’r gymuned Fyddar angen gweld camau gweithredu yn gynt yn hytrach nag yn hwyrach."
42. Er i rai cyfranwyr gydnabod y rhesymeg dros gylch adolygu hwy ar ôl i'r strategaeth gael ei sefydlu, pwysleisiwyd pwysigrwydd cynnal gwerthusiad cynnar i ganfod a datrys unrhyw faterion yn brydlon.
“Mae chwe blynedd yn rhy hir. Mae pethau'n newid yn gyflym, yn enwedig i'r gymuned Fyddar.”
43. Amlygodd eraill fanteision cysoni â fframweithiau adrodd presennol, fel Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, i symleiddio prosesau monitro ac osgoi dyblygu. Mynegodd y cyfranwyr awydd clir am atebolrwydd amserol.
44. Mae argaeledd dehonglwyr yn parhau i fod yn broblem fawr, yn enwedig mewn ardaloedd llai trefol lle mae gwasanaethau yn brin ac mae costau teithio a diffyg dehonglwyr lleol yn esgor ar rwystrau, yn enwedig ar gyfer dehongli wyneb yn wyneb.
45. Roedd sawl cyfrannwr yn gobeithio y byddai'r Bil yn arwain at weithdrefnau clir, hygyrch ar sut i drefnu bod dehonglwyr ar gael ar draws gwasanaethau cyhoeddus.
46. Fe wnaeth ambell arwyddwr IAP a oedd yn gallu clywed ac a gymerodd ran yn y grwpiau ffocws fynegi awydd cryf i ddod yn ddehonglwyr IAP cymwysedig, a oedd yn aml wedi'u hysgogi gan gysylltiadau personol â'r gymuned Fyddar. Fodd bynnag, soniodd ambell un am y rhwystrau sylweddol i gael mynediad at hyfforddiant. Roedd y rhain yn cynnwys diffyg cyrsiau IAP hyblyg a fforddiadwy, yn enwedig y tu hwnt i Lefel 2; darpariaeth leol gyfyngedig o hyfforddiant sy'n canolbwyntio'n gyntaf ar gyfrifoldebau teuluol a chyflogaeth; a chymorth ariannol bach iawn.
47. Er gwaethaf yr heriau hyn, roedd ymdeimlad cryf o benderfynoldeb i barhau i hyfforddi a chefnogi'r gymuned Fyddar. Roedd y cyfranwyr yn gobeithio y byddai'r Bil yn helpu i gynyddu nifer y cyfleoedd i ddod yn gymwysedig.
“Rydw i eisiau helpu'r gymuned Fyddar oherwydd rydw i wedi profi'r rhwystrau fy hun - ond mae'n ddrud ac yn anodd cael mynediad at y wybodaeth a'r cymorth sydd eu hangen arnaf ar gyfer y rôl honno.”
48. Ceir pryder ynghylch ansawdd a safonau addysgu IAP. Er enghraifft, mae rhai sefydliadau yn cynnig cyrsiau am ddim ond gyda hyfforddwyr sydd heb gymwysterau digonol, sy'n tanseilio gwerth dysgu ac yn cystadlu'n annheg ag athrawon cymwysedig.
“Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig siarad am ansawdd yr iaith sy'n cael ei defnyddio. Er enghraifft, dysgais Iaith Arwyddion Prydain yng Ngheredigion ac rwy'n athro Iaith Arwyddion Prydain cymwysedig. Mae gen i gymhwyster Lefel 6, rydw i wedi defnyddio'r iaith drwy gydol fy oes. Fodd bynnag, cyflogodd y brifysgol athro Iaith Arwyddion Prydain a oedd yn Lefel 2 ac yn dod o Loegr. Fe wnaethon nhw ei dalu i ddarparu beth ddylai fod yn wasanaeth rhad ac am ddim, sy'n golygu na allaf gystadlu â hynny. Fodd bynnag, doedd ansawdd yr addysgu ddim yn addas.”
49. Soniodd y cyfranwyr am gysylltiad clir rhwng mynediad cyfyngedig at gymorth cyfathrebu ac effeithiau negyddol ar iechyd meddwl a llesiant cymdeithasol. Roeddent yn gobeithio y byddai mwy o hygyrchedd mewn gwasanaethau cyhoeddus, wedi'i alluogi gan y Bil, yn arwain at effeithiau cadarnhaol ar iechyd meddwl.
50. Gwelwyd bod mynediad cyfyngedig at ddehonglwyr ac amgylcheddau sy'n gyfeillgar i bobl Fyddar yn ychwanegu at yr ymdeimlad o allgau cymdeithasol. Roedd hwn yn fater yr oedd cyfranwyr yn gobeithio y byddai'r Bil yn delio ag ef drwy wella'r ddarpariaeth o ddehonglwyr a gwell cynhwysiant.
51. Mae rhwystrau i addysg anffurfiol a gweithgareddau cymdeithasol hefyd yn cyfrannu at ymdeimlad o ynysu, tra bod gwasanaethau iechyd meddwl presennol yn aml yn anhygyrch neu'n cael eu hyrwyddo'n wael.
“Mae gan bobl Fyddar gyfraddau uwch o broblemau iechyd meddwl, ond nid yw gwasanaethau iechyd meddwl wedi'u teilwra i ni.”
52. Er gwaethaf rhwystredigaethau, roedd y cyfranwyr yn parhau i fod yn obeithiol y gallai’r Bil IAP arwain at newid parhaol os caiff ei weithredu'n effeithiol. Roeddent yn ei weld fel cyfle i bobl Fyddar deimlo eu bod yn cael eu cydnabod, eu parchu, a'u cynnwys.
“Byddai'r Bil yn gwneud inni deimlo ein bod yn cael ein parchu a'n gwerthfawrogi. Ond heb gyllid, cynllunio ac arweinyddiaeth briodol a hynny wedi ei arwain gan y gymuned Fyddar, ni fydd yn mynd yn ddigon pell.”